Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Zoom

Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Mehefin 2021

Amser: 18.06 - 18.45
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Lesley Griffiths AS

Darren Millar AS

Siân Gwenllian AS

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Bethan Garwood (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

</AI2>

<AI3>

2.1   Pwyllgorau'r Chweched Senedd - cylchoedd gorchwyl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar deitlau a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau, a chytunodd i wneud cynigion i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog a Pwyllgor y Llywydd yn ddiweddarach.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wneud cynnig yfory ar gyfer dyrannu cadeiryddion rhwng grwpiau gwleidyddol.

 

Y pwyllgorau sydd i'w sefydlu a dyrannu cadeiryddion yw fel a ganlyn:

 

·         Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;

·         Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ceidwadwyr Cymreig;

·         Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;

·         Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;

·         Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;

·         Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;

·         Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;

·         Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;

·         Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;

·         Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur

·         Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;

·         Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai fod gan bob pwyllgor polisi a deddfwriaeth chwe Aelod, a phob pwyllgor arbenigol bedwar, ar wahân i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd â phump, fel y'u rhagnodir yn y Rheolau Sefydlog.

 

Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai enwebiadau ac etholiadau ar gyfer Cadeiryddion yn cael eu cynnal ddydd Mawrth nesaf, gyda'r bwriad o gytuno ar aelodaeth cynifer â phosibl o bwyllgorau sy'n weddill ddydd Mercher nesaf.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Cyfrifoldebau Gweinidogol

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y papur dros nos a chadarnhau eu bod yn fodlon bod y cyfrifoldebau Gweinidogol i gyd yn dod o dan gylchoedd gorchwyl y pwyllgorau, fel sy'n ofynnol gan Reol Sefydlog 16.4(ii).

 

</AI4>

<AI5>

2.3   Pwyllgorau Chweched Senedd - adroddiad drafft

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i'r adroddiad gael ei ddiwygio yng ngoleuni'r trafodaethau heddiw, fel y gellid cytuno arno y tu allan i'r Pwyllgor a'i osod yfory.

 

</AI5>

<AI6>

3       Comisiwn y Senedd

</AI6>

<AI7>

3.1   Comisiwn y Senedd

Nododd y Pwyllgor Busnes y tri Aelod a gynigiwyd gan y grwpiau gwleidyddol fel Comisiynwyr y Senedd: Plaid Cymru – Rhun ap Iorwerth; Ceidwadwyr - Janet Finch-Saunders; Llafur - Ken Skates.

 

Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes mai Joyce Watson fyddai'r aelod ychwanegol, roedd Darren Millar yn gwrthwynebu i'r pedwerydd aelod ddod o'r grŵp Llafur.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynnig i benodi Comisiynwyr y Senedd i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory.

 

</AI7>

<AI8>

Unrhyw faterion eraill

Y Gyllideb Atodol Gyntaf

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi blaenoriaeth i gytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cyllid er mwyn sicrhau y gall y Pwyllgor graffu ar y gyllideb atodol.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>